Volltext Seite (XML)
Preview Mae mis Mai yn dod ä rhagoriaeth gerddorfaol ac amrywiaeth o ddwy Ian yr Iwerydd. Nos Sui 14 Mai, bydd Cerddorfa Ffilharmonig Moscow gyda’r arweinydd Yuri Simonov a’r ffidler Natalia Lomeiko yn ein tretio i noson o ffantasi ramantaidd Rwsia: llawenydd chwerw- felys a thorcalon ballet Romeo and Juliet Prokofiev a Concerto Ffidil Cyntaf Shostakovich sy'n berwi gan ddicter ac afiaith ysgafala. Peth prin o ddechrau gyrfa Rimsky-Korsakov, Sadko, sy’n dwyn y rhaglen I ben. Nos lau 13 Mai, mae Grand Band (NY) yn addo sbloet i’r llygad a’r glust a chwe phiano cyngerdd yn llenwi llwyfan Neuadd Dewi Sant. Mae Grand Band yn pleidio cerddoriaeth newydd a’u rhaglen yn cynnwys clasuron gan Reich, Lang a Glass, premiere byd gan Ben Wallace a cherddoriaeth o Gymru gan John Metcalf. Bydd Grand Band (NY) yn gwneud yn fawr o’u tro am Gymru, yn rhoi Gweithdy sy'n agored i’r cyhoedd a mynediad am ddim ddydd Llun 22 Mai am ddau o’r gloch a chyngerdd i ysgolion cynradd am hanner awr wedi deg ar 23 Mai. Grand Band (NY) Cyfarwyddwr Peter Esswood a’r ffidler mawr ei glod gan y beirniaid Matthew Jones at ei gilydd mewn Cyngerdd Awr Ginio i ddathlu Hanner Canmlwyddiant Gwyl Machen Isaf. Talwch Be Fynnwch ydi pris y cyngherddau yma felly gewch chi flas ar awr o gerddoriaeth eithriadol a thalu beth bynnag deimlwch chi sy’n addas, neu ddim o gwbl! Wedi ennill eu plwy drwy’r gwledydd y perfformio repertoire o oes aur Hollywood a Broadway, nos lau 30 Tachwedd daw John Wilson a’r John Wilson Orchestra ä chyngerdd atom sy’n morio yn Nramäu Cerdd Ffilm MGM gyda cherddoriaeth o ffilmiau megis An American in Paris, Singin' in the Rain, Showboat a llond gwlad at hynny. Mae Ensemble Preswyl Neuadd Dewi Sant, Mavron Quartet, yn perfformio Cyngerdd Awr Ginio ddydd Mawrth 25 Ebrill ac iddo raglen o waith gan Shostakovich a Borodin. Ar 9 Mai daw Chwaraewyr Siambr Cymru, eu