St David’s Hall International Concert Series 2016/17 Mae gan GÖR POLYFFONIG CAERDYDD, sydd yn ei 53ain blwyddyn, hanes balch. Mae wedi bod yn llysgennad i gerddoriaeth Cymru, gan deithio i UDA ar naw achlysur. Helpodd teithiau rhyngwladol y cör i’r Eidal, Malta, Llydaw, Awstria, yr Almaen, Canada, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Denmarc a Phräg i feithrin enw da ar lefel ryngwladol. Mae’n bwriadu teithio i Sweden yn yr hydref. Mae’r Cör yn uchel ei barch yn agosach at adref hefyd. Mae wedi perfformio yn holl brif leoliadau cerddorol Llundain. Mae wedi gweithio gyda llawer o gerddorfeydd gorau ein hoes, gan gynnwys y Ffilharmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Baroque Llundain, The London Mozart Players a’r Hallä. Mae hefyd wedi canu dan faton Syr Colin Davis, Carl Davis, Syr Charles Groves, Richard Hickox, Syr Roger Norrington, Syr John Eliot Gardiner, Syr Andrew Davis, Jane Glover, Tadaaki Otaka, Paavo Berglund, James Loughran a John Alldis. Ymddangosodd y Cör yn ddiweddar mewn teyrnged ar y BBC i Syr Colin Davies yn dangos dau glip ohono'n ymarfer y Cör cyn perfformio’r Messiah ym 1981. I weid manylion llawn perfformiadau diweddar y Cör a rhai'r dyfodol, ewch I http://www.cardiffpolyphonic.org.uk/