Volltext Seite (XML)
Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol Neuadd Dewi Sant 2016/17 Dechreuodd ALEXANDER JAMES EDWARDS, a aned yn Essex, ar ei yrfa ganu fei corydd yng Nghadeirlan Sant Paul, gan barhau ä’i astudiaethau yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Gogledd Lloegr a’r Academi Gerdd Frenhinol ac ymuno’n ddiweddarach ä’r Rhaglen Artistiaid Ifanc yn y Ty Opera Brenhinol, Covent Garden. Canodd y brif röl yn Albert Herring yn y Salzburg Landestheater, Don Jose Carmen, Rodolfo La boheme a Pinkerton Madam Butterfly ar gyfer Raymond Gubbay Ltd, Novice Billy Budd ar gyfer Opera Cenedlaethol Lloegr, Sempronio Lo speziale yn Tel Aviv, Rodolfo La boheme ar gyfer Lyric Opera, Dulyn, a Festival Opera, Napier, Rinuccio Gianni Schicchi ar gyfer Opera Holland Park, Ruggero La rondine ar gyfer Iford Arts, Mr Erlanson A Little Night Music yn y Theätre du Chätelet, Pirelli Sweeney Todd a Tom Rakewell The Rake’s Progress ar gyfer Gothenburg Opera, Roderigo Otello ar gyfer Opöra Royal de Wallonie, Mas de Daumas Gassac The Lovely Ladies yng Ngwyl Buxton a First Brother The Seven Deadly Sins ar gyfer y Bale Brenhinol. Mae ei recordiadau a’i ddarllediadau yn cynnwys The Carmelites ar gyfer Chandos a Friday Night is Music Night ar gyfer BBC Radio 2. Ymddangosodd ym Mhroms y BBC am y tro cyntaf yn 2006, ac mae ei gyngherddau'n cynnwys perfformiadau gyda’r Academi Cerddoriaeth Hynafol, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Brighton, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, yr Halle, Cymdeithas Gorawl Huddersfield, Camerata Israel, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Symffoni Mikkeli, Cerddorfa Orion, Philomusica Rhydychen, y Gymdeithas Gorawl Frenhinol, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Sinffonia Frenhinol Gogledd Lloegr, Sinffonia Southbank a Sinffonia Llwch Garmon (.Wexford'). Mae hefyd wedi ymddangos fei Unawdydd ym Mhroms y Frwydr ac yng Nghyngerdd Awyr Agored Glasurol Castell Leeds, ac mae'n ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau ar gyfer Raymond Gubbay Ltd. Ar hyn o bryd mae’n chwarae röl Cavaradossi Tosca ar gyfer English Touring Opera, Trydydd Iddew Salome ar gyfer Cerddorfa Symffoni Bournemouth, Foresto Attila yn Theater Lübeck yn ogystal ä pherfformio Opera Gala gyfer Cherddorfa Symffoni Genedlaethol RTE, The Puccini Scandal yn y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol, Dulyn, ac amrywiaeth o gyngherddau ar gyfer Raymond Gubbay Ltd. Yn 2011, etholwyd Alexander James Edwards yn Gydymaith ar yr Academi Gerdd Frenhinol gan Gorff Llywodraethu’r academi am ei ragoriaeth yn y maes Opera.