Volltext Seite (XML)
Nid yw’n syndod bod yr Ode ddathliadol wedi tanio dychymyg Beethoven ynghano! tymestl y Chwyldro Ffrengig, ond rhyfeddol yw’r ffaith ei fod wedi dal yn dynn wrth y delfrydau hyn ar öl popeth a ddigwyddodd yn y deng mlynedd ar hugain ar öl I Ewrop gael ei difrodi gan Ryfeloedd Napoleon ac ar öl I orthrwm gwleidyddol droi’n realaeth yn Fienna ar öl 1815. Gofynnwyd i Beethoven unwaith pa un oedd ei hoff symffoni, ac atebodd heb feddwl ddwywaith: yr Eroica. Ond rhaid cyfaddef, digwyddodd y sgwrs hon ym 1818 cyn iddo ddechrau ar y Nawfed. Rwy’n amau mai’r un peth fyddai’r ateb yn ddiweddarach, hyd yn oed ar öl iddo gwblhau’r Nawfed: yr Eroica oedd ei gredo artistig ac mae’n adlewyrchu egni a hanfod ei gymeriad i’r dim; fe’i cyfansoddwyd tra ei fod ar ei anterth, yn dathlu ei fuddugoliaeth dros amgylchiadau a allai fod wedi’i drechu yn ddiamau. Wrth drafod ei symffoni 'wychaf' bydd amheuon bob amser ynghylch unrhyw symffoni sy’n cynnwys lleisiau, ond byddai'r egwyddor ddadleuol honno’n haneru corff gwaith symffonig Mahler. Dewisodd Wagner y Nawfed i ddathlu gosod carreg sylfaen ei theatr yn Bayreuth, a chyfaddefodd Brahms yn ddigon parod fod yr Ode to Joy wedi dylanwadu'n fawr ar finale ei Symffoni Gyntaf ei hun: honnodd III dau mai’r Nawfed oedd man cychwyn eu gweledigaethau gwahanol ar gyfer cerddoriaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyda thrasiedi a drama’r symudiad agoriadol, egni a hiwmor y scherzo, tawelwch ysbrydol a chynhesrwydd dynol y symudiad araf a dathliad mawreddog y finale o orfoledd a brawdgarwch, mae’r Nawfed Symffoni heb os yn bodloni meini prawf Mahler, sef y dylai symffoni fod ‘fei y byd, yn cynnwys popeth’. Ond eto, ar yr un pryd, gallwn werthfawrogi 'caethder, ffocws a rhesymeg ddwys’ y Nawfed (yn arbennig yn y symudiad agoriadol); nodweddion y mynnodd Sibelius eu bod yn hanfodol ar gyfer y ffurf symffonig yn y sgwrs enwog honno rhyngddo ef a Mahler ym 1907. Efallai bod Nawfed Symffoni Beethoven yn symffoni ar gyfer achlysuron arbennig yn hytrach na’n bywydau beunyddiol, ond yn yr oes orffwyll ym mis Tachwedd 1989 gyda dymchwel Wal Berlin a’r Chwyldro Melfed yn Tsiecoslofacia, tarodd neges y Nawfed dant yng nghalonnau llawer ohonom ni unwaith eto. Roedd y Missa Solemnis yn dathlu ei ffydd fewnol a’i amheuon ä datganiad hynod bersonol; mae’r Nawfed Symffoni yn datgan ffydd Beethoven i’r byd, yn mynegi ei wir gariad at gyd- ddyn. Mae’r neges hon o obaith yn bwysicach nag erioed heddiw wrth i ni gamu i mewn i fyd o öl-wirionedd... ©Timothy Dowling lonawr 2017