Volltext Seite (XML)
sy’n gerrig milltir rheolaidd drwy’r hyn a elwir ei ‘gyfnod arwrol’. Tra'n cwblhau ei Seithfed a’i Wythfed Symffoni, crybwyllodd syniadau am symffoni newydd yn D leiaf a gwelwyd sgetshis cychwynnol ar gyfer themäu’r ddau symudiad agoriadol yn ei lyfrau llunio cyn gynhared ä 1815-16, ond ni ddatblygodd y rhain yn llawn tan iddo weithio o ddifri ar y symffoni ar öl cwblhau’r Missa Solemnis ddechrau 1823. Prin y defnyddiodd Beethoven y cywair D leiaf; yr unig gyfanwaith pwysig arall yn y cywir hwn yw ei Sonata Piano Rhif 17, Y Dymestl. Mae symudiad canol dramatig y Triawd Piano, Opws 70 rhif 1, Yr Ysbryd, hefyd yn D leiaf - ill dau’n weithiau dramatig ä chysylltiadau Iled-Shakespearaidd. Cyfansoddodd Beethoven gadenze ar gyfer Concerto Piano D leiaf Mozart hefyd. Mae syniadau ar gyfer finale’r Nawfed Symffoni yn dyddio’n öl 30 o flynyddoedd i’r adeg pan ystyriodd osod cerdd Friedrich von Schiller, An die Freude I gerddoriaeth ar ddechrau’r 1790au. Cyfansoddodd Schiller y gerdd ym 1785, ac yn amlwg cafodd ddylanwad mawr ar Beethoven a oedd yn gefnogol o’r syniadau chwyldroadol yn dod allan o Ffrainc ar öl 1789. Mynegodd Beethoven droeon yr hoffai osod y geiriau hyn I gerddoriaeth ond nid aeth ati o ddifri tan iddo ddechrau gweithio ar ei Nawfed Symffoni, ac roedd ganddo amheuon ynghylch finale corawl hyd yn oed bryd hynny. Yn y cyfamser, roedd Ode to Joy Schiller wedi’i gosod i gerddoriaeth gan sawl cyfansoddwr digon di-nod, a hefyd gan y Schubert deunaw oed ym 1815, er iddo wneud hynny ar ffurf cän anhynod o lai na dwy funud o hyd. Ar y pwynt hwn, mae'n werth tynnu sylw at deitl cyhoeddedig y Nawfed Symffoni. Cyfeirir ati’n aml fei ‘y Symffoni Gorawl’, ond mae hyn yn bychanu röl y gerddorfa mewn gwaith y mae 70% ohono’n ddi-lais. Gwell glynu wrth deitl Beethoven ei hun, ‘Symffoni ä chorws terfynol ar Ode to Joy Schiller’. I ddechrau, ystyriodd Beethoven finale offerynnol. Defnyddiodd brif thema’r finale hwn ar gyfer ei Bedwarawd Llinynnau yn A leiaf, a gyhoeddwyd fei Opws 132. Mae finale’r Pedwarawd hefyd yn cael ei gyflwyno mewn adroddgan sy’n debyg i’r adroddgan ar ddechrau symudiad olaf y Nawfed. Hyd yn oed ar öl premiere llwyddiannus y Nawfed ym Mai 1824, ystyriodd Beethoven newid y finale offerynnol, ond rhoddodd y syniad hwn o’r neilltu. Roedd gan Beethoven amheuon tebyg ynghylch finale dau gyfansoddiad arall o’r cyfnod hwn: awgrymodd y gallai’r Sonata Hammerklavier gael ei chyhoeddi fei dau waith ar wahän, gyda’r finale ffiwgaidd yn cael ei wahanu o weddill y sonata fei gwaith annibynnol; byddai’r ail symudiad byr yna’n cael ei symud i ffurfio finale sonata tri-symudiad. Nid yw gosodiad pedwar-symudiad gwreiddiol yr Hammerklavier yn cael ei gwestiynu heddiw. Yn ddiweddarach, cyfansoddodd o'i wirfodd finale newydd ar gyfer ei Bedwarawd Llinynnau yn B fflat fwyaf, Opws 130, gan eto ganiatäu i’r finale ffiwgaidd gael ei gyhoeddi fei