St David’s Hall International Concert Senes 2016/17 Mae MICHAEL SANDERLING wedi bod yn Brif Arweinydd ar Gerddorfa Ffilharmonig Dresden ers 2011. Mae hefyd yn arweinydd gwadd y mae galw mawr amdano ac yn cyfarwyddo cerddorfeydd fei Cerddorfa Tonhalle Zurich, Cerddorfa Symffoni Yomiuri Nippon yn Tokyo, Konzerthausorchester Berlin, Cerddorfa Ffilharmonig Munich, Cerddorfa Symffoni Bamberg, Cerddorfa Symffoni Fiena, Cerddorfa Symffoni Toronto, Cerddorfa Symffoni NHK yn Tokyo, Cerddorfa Gewandhaus Leipzig a cherddorfeydd radio arbennig yr Almaen. Mae Michael Sanderling, a aned yn Berlin, yn un o’r rhai prin sydd wedi gweithio ei ffordd i fyny drwy gynghreiriau’r cerddorion cerddorfaol i’r brig. Ym 1987 ac yntau’n 20 oed, cafodd ei benodi'n unawdydd ar y sielo gyda Cherddorfa Gewandhaus Leipzig dan Kurt Masur, ac yna o 1994 i 2006 cyflawnodd yr un röl yng Ngherddorfa Symffoni Radio Berlin. Fel unawdydd, cyflwynodd berfformiadau gwadd gyda Cherddorfa Symffoni Boston, Cerddorfa Ffilharmonig Los Angeles a’r Orchestre de Paris ond i enwi rhai, ac fei cerddor siambr brwdfrydig bu’n aelod o'r triawd Ex Aequo am wyth mlynedd. Safodd ar bodiwm yr arweinydd am y tro cyntaf yn un o ymarferion Cerddorfa Siambr Berlin yn 2000. Ac yntau’n gyfarwydd ä röl yr arweinydd ers ei blentyndod fei mab i’r chwedlonol Kurt Sandlering, cymerodd Michael fwyfwy o rolau arwain ac fe’i penodwyd yn brif arweinydd a chyfarwyddwr celf ar yr enwog Kammerakademie Potsdam yn 2006. Mwynhaodd Iwyddiant fei arweinydd opera gyda "The Fall of the House of Usher" Philip Glass yn Potsdam a chynhyrchiad newydd "War and Peace” Prokofiev yn Opera Cologne. Fel sielydd ac arweinydd mae wedi recordio gweithiau pwysig o repertoire Dvorak, Schumann, Shostakovich, Prokofiev a Tchaikovsky ond i enwi llond dwrn. Y peth pwysicaf i Michael Sanderling yw gweithio gyda cherddorion ifanc. Mae’n addysgu fei Athro Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol Frankfurt ac yn cydweithredu’n rheolaidd ä’r Bundesjugendorchester, Cerddorfa leuenctid Jerusalem Weimar, y Junge Deutsche Philharmonie a Cherddorfa Gwyl Schleswig-Holstein. O 2003 i 2013 bu’n gweithio gyda’r Deutsche Streicherphilharmonie fei prif arweinydd. Ac yntau wedi bod yn gerddor ei hun, ystyrir Michael Sanderling yn hynod effeithiol mewn ymarferion, ond eto gall ennyn tanbeidrwydd a brwdfrydedd gan y cerddorion yn ystod perfformiadau. Mae ei repertoire yn hyblyg, yn amrywio o Bach a Handel i’r premieres cyfoes. Mae hefyd am ddatblygu hyblygrwydd sain a steil Cerddorfa Ffilharmonig Dresden.