Volltext Seite (XML)
gwaith ar wahän (Gross Fuge). Ni allai’r finale newydd fod yn fwy gwahanol ei gymeriad, er ei fod yn cynnwys rhai o’r un perthnasau thematig ä’r finale ffiwgaidd gwreiddiol. Erbyn heddiw, mae'r ddwy fersiwn o’r Pedwarawd yn B leiaf i’w clywed yr un mor aml bron. Rhyfeddol yw dysgu am amheuon parhaus Beethoven ynghylch ei ddiweddgloeon o ystyried pa mor gyfarwydd a phendant yw ei waith i ni. Pendronodd Beethoven ynghylch dwy symffoni wrth ddechrau ar ei Nawfed, ac yn wir roedd wedi cynhyrchu parau symffonig yn rheolaidd o’r blaen, megis yr Eroica a Rhif 5, y Bumed a’r Chweched Symffoni ac yna’r Seithfed a’r Wythfed, ond nid oes tystiolaeth iddo wneud hyn mewn modd systematig. Y tro hwn, ni luniodd ail symffoni, ond gallwn o bosib ystyried y Missa Solemnis yn ‘efell’ priodol. Mae’r geiriau ‘O’r galon, i’r galon’ yn gyflwyniad iddi - cymar campus i’r Nawfed Symffoni. Mae’r gwaith, sy’n ddathliad o’i grefydd, yn ymwneud ag amheuon lawn gymaint ä ffydd, a sut y gall y ddau beth fyw’n gytün. Ac eto, mae'r diweddglo’n dwyn sylw. Does bosib mai diweddglo amwys y Missa Solemnis yw ochr arall y geiniog o’i gymharu ag optimistiaeth Iwyr diwedd y Nawfed Symffoni. A hithau’n symffonig ei chysyniad, dichon y byddai’n fwy priodol cyfeirio at y Missa Solemnis fei ei ‘symffoni gorawl’. 1. Allegro, ma non troppo, un poco maestoso Roedd prif thema glogyrnaidd y symudiad cyntaf wedi’i nodiannu’n amlinellol yn y sgetshis cynnar ar gyfer y symffoni, ac mae’r darn gorffenedig yn dyst i gyfrif cynnar Schlösser o’i ddull cyfansoddiadol; gall rhywun ddychmygu’r gerddoriaeth yn rhuo, yn atseinio, yn diasbedain ym mhen Beethoven tan iddo ffeindio’r ffurf derfynol, a ymlwybrodd allan o wagle cyntefig, y niwl yn codi’n raddol i ddatgelu’r mynydd mawreddog. Dyma oedd y model a ddefnyddiwyd gan symffonTwyr diweddarach, yn arbennig Anton Bruckner. Ffactor arall yn y symudiad cyntaf hwn y gallech fod wedi’i gymryd yn ganiataol yw’r feistrolaeth Iwyr dros rym ei gerddorfa, gyda chyfuniad cynnil o offerynnau drwyddi draw - nid oes ond un foment gwta Ile credwn ein bod am glywed unawd estynedig gan yr utgorn, a hynny ar ddechrau'r coda, cyn i weddill y gerddorfa ymuno. Gyda’r rhythmau pytiog Handelaidd a’r sgorio manwl, mae’r gerddoriaeth yn edrych yn öl ar fodelau Baröc ac at ddramäu cerddorol y dyfodol. Mae crescendo clo’r coda, gyda’r llinynnau tremolo’n dyrchafu drwy’r wythfedau o pianissimo i fortissimo cyn y datganiad olaf cignoeth o’r brif thema, yn dod ä’r symudiad trasig hwn i stop sydyn. 2. Molto vivace Am y tro cyntaf yn un o’i symffonTau, clywn symudiad Scherzo-aidd (y trydydd symudiad yn ei symffoniau cynharach yn ddi-ffael), er nad yw wedi’i enwi felly. Ymddangosodd y brif thema yn y sgetshis cynnar ochr yn ochr ag awgrym o ddatblygiad ffiwgaidd; ond tarfu’r timpani yw’r un syniad nodweddiadol sy’n crynhoi