ond fe’i defnyddiodd yn fwy cynnil yn ei weithiau symffonig. Yn yr un modd, roedd Beethoven wedi dangos ffafriaeth amlwg i’r Scherzo yn ei weithiau unawd a siambr ddiwedd y 1790au, a dyma oedd y ffurf a ffafriwyd ganddo ar gyfer y drydedd o’i naw symffoni; yr eithriad amlwg yw ei Wythfed Symffoni 'glasurol’. Mae digrifwch Beethoven i’w weid eto yng nghyflwyniad yr Allegro con brio derfynol, gyda'r raddfa’n dringo’n raddol a ninnau'n disgwyl yn eiddgar am y brif alaw. Nid oedd pawb ar yr un donfedd, fodd bynnag: yn 61 y sön, gwnaeth Daniel Gottlieb Türk (1750-1813), cyfansoddwr ac athro cerddoriaeth yn Halle, de Sacsoni, hepgor y darn o'i berfformiad rhag ofn i’r gynulleidfa ddechrau chwerthin. Ar wahän i hynny, mae’r Finale’n gymharol gonfensiynol, gyda Beethoven yn dangos tystiolaeth o’i astudiaethau gwrthbwyntiol ä’i athro Johann Georg Albrechtsberger ganol y 1790au. Tra bod Symffoni Gyntaf Beethoven heb os yn waith cyfareddol o swynol, mae’r meddwl yn crwydro o feddwl beth fyddai wedi digwyddo iddo pe na bai Beethoven wedi gallu cyfansoddi symffonTau pellach ac yntau ar ei anterth. Gallwn nawr glywed recordiadau o symffonTau gan ddau o’i gyfoedion iau, na chyfansoddasant ond un symffoni yr un yn eu bywydau byrion. Does bosib fod y ddau ddarn (sy’n sefyll ysgwydd yn ysgwydd ä gwaith cyntaf Beethoven) wedi’u hesgeuluso’n ofnadwy o’u cymharu ä’r gamp gyntaf hon gan Beethoven. Felly, os y mwynhaoch chi Symffoni Gyntaf Beethoven, rhowch gyfle i’r ddwy yma: • Symffoni yn D fwyaf (1821) gan y cyfansoddwr Bohemaidd Jan Vaclav Vorisek (1791-1824) • Symffoni yn D fwyaf/leiaf (1823) gan y Sbaenwr Juan Crisöstomo Arriaga (1806-26) EGWYL Ludwig van Beethoven (1770-1827) SYMFFONI RHIF 9 YN D LEIAF, OPWS 125 GYDA CHORWS TERFYNOL I ODE TO JOY SCHILLER A BERFFORMIWYD YN GYNTAF AR 7 MAI 1824 YN FIENNA TUA 70 MUNUD 1. Allegro, ma non troppo, un poco maestoso 2. Molto vivace 3. Adagio molto e cantablile - Andante moderato 4. Presto; Allegro assai Mae mwy o leisiau wedi dweud eu dweud ar Nawfed Symffoni Beethoven nag unrhyw symffoni arall. Cyfeirir y darllenydd at astudiaeth Nicholas Cook fei rhan o’r Cambridge Music Handbooks am safbwynt cyffredinol ar y Nawfed. Mae’n drafodaeth ddiddorol, hawdd ei darllen ar sut mae’r Nawfed wedi’i chlywed a’i dehongli ers y Premiere ym 1824, gan newid gyda thraddodiadau perfformio gwahanol. Gobaith y nodyn hwn ar y symffoni yw dod ä rhai pwyntiau allweddol at eich sylw - nid yw’n ddadansoddiad cynhwysfawr o’r gwaith o bell ffordd. Rhwng 1800 a 1812 cyfansoddodd Beethoven ei wyth symffoni gyntaf,