symudiad cyntaf ei datblygu rhwng 1795 a 1797. Cafodd drafferth ä'r finale felly rhoddodd y gwaith i’r naill ochr i ganolbwyntio ar brojectau eraill tan ddiwedd 1799, a chwblhaodd y rhan fwyaf o'r gwaith ym misoedd bach 1800. Pwysig nodi mai’r Symffoni Gyntaf oedd yr unig symffoni a gyfansoddodd cyn iddo ddechrau cael problemau ä’i glyw ddiwedd y 1790au. Roedd yn amlwg yn cael trafferthion mawr ä’i glyw erbyn ei waith ar yr Ail Symffoni ym 1802. Mae’r ofnadwy Heiligenstadt Testament, a ysgrifennodd ac yntau’n anobeithio ym mis Hydref 1802, yn dyst i hyn. Roedd gan Beethoven weledigaeth newydd o ran diben a ffurf y symffoni, fei y clywch yn y cyngerdd heno: mae’r chwarter canrif rhwng y Symffoni Gyntaf a’r Nawfed Symffoni (1800- 24) yn cynrychioli’r daith fwyaf chwyldroadol yn hanes y symffoni fei ffurf gerddorol. Yn y Symffoni Gyntaf, mae Beethoven yn barod i herio’r byd cerddorol yn llawn optimistiaeth a brwdfrydedd gwr ifanc. Ond wedi dweud hynny, nid oedd yn ifanc fei y cyfryw: roedd Mozart eisoes wedi cyfansoddi 38 o symffonTau erbyn ei fod yn 30, ac roedd gan Haydn hyd yn oed (a ddechreuodd yn gymharol hwyr) tua 20 o symffonTau yn ei repertoire erbyn ei ben-blwydd yn 30. Roedd cyfaill Fiennaidd Beethoven, Schubert wedi cwblhau pob un o’i naw symffoni erbyn ei fod yn 30. Mae cam cyntaf Beethoven i’r byd symffonig i’w glywed ar ffurf cord cywasgedig petrus y seithfed, wedi’i ddominyddu gan chwythbrennau dros linynnau pizzicato. Mae’r cyflwyniad yn un cryno - dim ond deg bar o hyd, gydag C fwyaf yn cadarnhau ei goruchafiaeth wrth i’r Allegro con brio gychwyn - mae nodau tri-chywair y triawd yna’n cael eu hailadrodd drosodd a thro. Cyfnewidir ffigurau efelychol yn ysblennydd rhwng y chwythbrennau, a hiwmor hwylus sy’n llywio’r gerddoriaeth o hyd. Mae Beethoven yn dilyn y strwythur sonata traddodiadol - nodir ailadroddiad ar gyfer y dangosiad; ar ddiwedd ail hanner y symudiad mae ei goda estynedig yn dileu’r angen am hyn. Mae antur annodweddiadol o betrusgar Beethoven i mewn i’r byd symffonig yn rhyfeddol o amheus o hyd yn yr Andante dilynol. Nid yw’n cynnwys y dyfnder mynegiant a arddangosodd mewn gweithiau fei ei Sonata Piano cynnar, Opws 10 rhif 3, yn arbennig ei symudiad araf ä’r marc anarferol ‘Largo e mesto'. I’r gwrthwyneb, mae’r Andante cantabile con moto ä’i gwreiddiau’n gadarn mewn bodlonrwydd emosiynol. Gallwn glywed dylanwad symudiad araf Deugeinfed Symffoni Mozart. Yn awr cawn gip ar y dyfodol; mae trawiadau tawel y timpani tua diwedd yr hanner cyntaf yn rhagfynegiad o’i ddefnydd nodweddiadol o’r timpani mewn gweithiau eraill fei Adagio y Bedwaredd Symffoni a Finale? Pumed Concerto Piano. Y symudiad mwyaf ‘chwyldroadol’ o bosib yw’r trydydd, sydd wedi’i labelu’n bur amhriodol fei ’Menuetto’; Scherzo glän, gloyw ydyw mewn gwirionedd. Roedd Haydn wedi arloesi’r defnydd o’r Scherzo yn ei bedwarawdau i’r llinynnau o’i set Opws 33 ymlaen,