Cyfres Cyngherddau Rhyngwladol Neuadd Dewi Sant 2016/17 raglen y gerddorfa heddiw. Mae Cerddorfa Ffilharmonig Dresden yn ymuno ä Kreuzchor Dresden ar gyfer perfformiadau o waith Bach dros y Nadolig a’r Pasg yn y Kreuzkirche. Mae Cör Ffilharmonig Dresden yn bartner bendigedig i’r gerddorfa ä'i symffonTau corawl gwych. Mae cerddoriaeth siambr a symffonTau siambr a berfformir gan Gerddorfa Siambr Ffilharmonig Dresden yn draddodiad pwysig arall. Mae holl gerddorion y gerddorfa hon yn dod o Gerddorfa Ffilharmonig Dresden. Yn ogystal ä dilynwyr selog ei rhaglenni teuluol, mae Cerddorfa Ffilharmonig Dresden yn gwneud gwaith da yn cyflwyno cerddoriaeth glasurol i grwpiau newydd o wrandawyr. Mae ei pherfformiadau gwadd ym mhedwar ban byd yn dyst i fri Cerddorfa Ffilharmonig Dresden yn y byd cerddoriaeth glasurol. Mae disgyddiaeth y Gerddorfa Ffilharmonig, a ddechreuodd ddatblygu ym 1937, yn rhyfeddol. Mae pär newydd o symffonTau gan Dmitri Shostakovich a Ludwig van Beethoven, dan gyfarwyddyd y Prif Arweinydd Michael Sanderling, yn cael eu recordio ar hyn o bryd. Rhyddhaodd Sony Classical albwm cyntaf y gerddorfa o gyfuniadau gwych o’r SymffonTau Rhif 6 ym mis Tachwedd 2015.