Roedd cyfansoddwyr Barde yr ail ganrif a’r bymtheg a’r ddeunawfed ganrif yn ymfalchTo yn eu gallu i gyfansoddi cerddoriaeth deimladwy. Prin oedd y rheini a allai ddal y dagrau'n öl wrth wrando ar Lamento dArianna gan Monteverdi. Mae’r un peth yn wir am alargan enwog Dido sy’n cloi opera Dido and Aeneas gan Purcell. Yn yr un modd, cynhesodd cynulleidfaoedd y ddeunawfed ganrif, nad oeddent wedi arfer ä cherddoriaeth gorawl chwerw- felys, sanctaidd, ysbrydol, at Stabat Mater, gwaith dwys, personol Pergolesi. Bu farw’r ddau gyfansoddwr cyn eu hamser: Purcell yn 36 a Pergolesi yn 25. Gall cynulleidfaoedd Neuadd Dewi Sant fwynhau’r ddau gampwaith Baröc hwn ddydd Mawrth 20 Hydref pan fydd Armonico Consort, dan arweiniad Christopher Monks, yn dychwelyd yma. Mae'r noson yn cynnwys unawdwyr sy’n ddigon i dynnu dwr o’r dannedd: mae’r soprano Elin Manahan Thomas yn chwarae rhan Dido ac yn canu yn Stabat Mater ac mae'r tenor Alexander Aldren yn chwarae rhan Aeneas. Yn Stabat Mater Pergolesi, mae’r uwehdenor William Towers yn ymuno ä nhw. Mae’r cyngerdd cerddorfaol nesaf ddydd Mercher 4 Tachwedd pan fydd Vladimir Ashkenazy yn dychwelyd i arwain y Philharmonia Orchestra gyda’r unawdydd Ingolf Wunder yng Nghoncerto Piano Cyntaf Chopin. Mae’r tymor hwn yn canolbwyntio ar Rachmaninov, gyda’i Ail Symffoni ragorol yn cau’r cyngerdd. A chofiwch fod pob cyngerdd yn y Tymor Cyngherddau Rhyngwladol bellach yn cynnwys sgwrs ymlaen llaw am 6.30pm a pherfformiad byr ar öl y cyngerdd yn dechrau tua 10 munud ar öl i'r prif gyngerdd ddod i ben. CERDDORFA FFILHARMONIG CAERDYDD Mae’r cyntaf o gyngherddau’r tymor hwn, gan Gerddorfa Ffilharmonig Caerdydd o dan arweiniad Michael Bell, ddydd Gwener 16 Hydref, yn cynnwys yr enwog David Childs ar yr Ewffoniwm yng Nghoncerto Ewffoniwm poblogaidd Karl Jenkins. Mae’r cyngerdd hefyd yn cynnwys Agorawd William Teil Rossini a Symffoni New World Dvorak. SADYRNAU CYFOES Beth am roi cynnig ar rywbeth bach gwahanol? Dewch i un o’r Cyngherddau Cinio Cyfoes ddydd Sadwrn 24 Hydref? Mae’r Piatti String Quartet yn edrych ar y seiniau newydd rhyfeddol y mae’r cyfansoddwyr modern yn eu consurio drwy’r bedwarawd llinynnau sydd bellach yn 250 mlwydd oed. Dewch draw erbyn Ipm a thalwch faint y mynnoch. CYNGHERDDAU CINIO Mae cyngherddau cinio dydd Mawrth bellach wedi cychwyn, ac ar 13 Hydref bydd y pianydd Ivan Ilie yn dychwelyd i Gaerdydd gyda rhaglen i nodi marwolaeth Scriabin. Gallwch glywed ei 24 Preliwd Chopin-aidd, ynghyd ä cherddoriaeth gan Chopin ei hun, a pherfformiad cyntaf gwaith un o gyfansoddwyr gorau Cymru: Chant gan John Metcalf. Bydd y feiolinydd Benjamin Baker a’r pianydd Jonathan Ware yn cyflwyno'r cyngerdd cinio nesaf ar 20 Hydref, gyda cherddoriaeth gan Schubert ac Elgar. Mae’r ddau gyngerdd yn dechrau am Ipm.