a chaled, mae’n cyflwyno offeryn sydd prin i’w glywed yng ngherddoriaeth gerddorfaol Brahms: y triongl. Fe’i hysgrifennwyd ar öl y tri symudiad arall, a’r bwriad oedd ei gyferbynnu ä natur dywyll gweddill y symffoni. Mae’r finale {Allegro energico e passionate) yn symudiad cryno a chymharol fyr, yn symud yn ddiwrthdro tuag at ddiweddglo trasig. Yn seiliedig ar thema Cantata Rhif 150 Bach (Nach dir, Herr, verlanget mich'), lluniodd Brahms y symudiad ar ffurf Baröc hynafol y passacaglia. Mae’r wyth cord a glywir ar y dechrau yn cael eu hailadrodd drwyddi draw drwy 34 o amrywiadau gwahanol, bob amser yn newid ond eto’n sefydlog. Yng nghanol y symudiad mae Brahms yn ymlacio am ysbaid. Clywir unawd ffliwt farwnadol a chorawl prudd ar gyfer y tri thrombön cyn i’r gerddoriaeth ruthro’n fyrbwyll at ddiweddglo trasig. CD: Vienna Philharmonie Orchestra / Carlos Kleiber (Deutsche Grammophon 457 706-2) JOHANNES BRAHMS (1833-97) Roedd y Brahms ifanc yn nodweddu’r cerddorion rhamantaidd. Yn wr ifanc golygus, fe’i cyflwynwyd i Schumann pan oedd yn ugain oed, a dywedodd hwnnw, “mae fei petai wedi’i osod ar y ddaear gan Dduw... does dim byd amdano y byddwn i’n ei newid.” Ond eto, bu’n rhaid i Brahms weithio’n ddiwyd. Ac yntau’n fab i gerddor tlawd, cafodd ei fagu yn un o ardaloedd tlotaf Hamburg. Pan oedd yn ei arddegau, darganfuwyd ei dalentau, ond bu’n rhaid iddo ennill bywoliaeth ym mariau a phuteindai harbwr Hamburg. Cysgodwyd ei lencyndod gan drasiedi, a adawodd ei farc. O fewn ychydig fisoedd o gwrdd ä Schumann datganwyd bod y cyfansoddwr yn wallgof, a rhwygwyd Brahms rhwng ei ffyddlondeb iddo ef a’i gariad at ei wraig, Clara. Erbyn y 1870au cydnabuwyd Brahms fei cerddor gorau ei oes: statws a sierhawyd gan berfformiad cyntaf ei Symffoni Gyntaf ym 1876, a ddisgrifiwyd gan von Bülow fei “Degfed Symffoni Beethoven”. Erbyn hyn roedd Brahms wedi hen ymgartrefu yn Fiena ac roedd yr athrylith ifanc rhamantus wedi troi i mewn i’r hen lanc barfog a adnabyddwn heddiw. Roedd ei bersonoliaeth yn destun diddanweh: y fflat syml yr oedd yn byw ynddi, ei farf Iwyd, ei hen ddillad, a’i arfer o godi am 5am bob bore i fwynhau paned o goffi du cryf. Roedd yn bwyta mewn caffis bach (ei ffefryn oedd Zum roten Igel (y Draenog Coch)) ac erbyn hyn roedd yn wr digon swta. Pan oedd yn 63 oed, yn hen cyn ei amser, cafodd Brahms ei fwrw’n galed gan farwolaeth Clara Schumann. Mae’n ymddangos fei petai wedi darogan y diwedd - ei waith olaf oedd cyfres o Breliwdau Corawl ar gyfer yr organ yn myfyrio ar ddirgelwch marwolaeth. DARLLEN PELLACH: Malcolm MacDonald: Brahms. The Master Musicians. Gwasg Prifysgol Rhydychen GWEFAN: www.johannesbrahms.org ® Peter Reynolds