Programme notes 20 < trefniant cerddorol, yn arbennig yn y trydydd symudiad. Fodd bynnag, ni arweiniodd y diwygiadau at fwy o ddiddordeb cyhoeddus yn y concerto, a chwynodd Rachmaninov i’w gyhoeddwr, “pan fydda i’n dweud wrthyn nhw yn America fy mod i am chwarae’r Concerto Cyntaf, dydyn nhw ddim yn protestio, ond galla i weid yn eu hwynebau y byddai’n well ganddyn nhw’r Ail neu? Trydydd." Mae’r concerto ar ffurf tri symudiad. Mae’r cyntaf (Vivace') yn agor ä ffanfer cyn symud at rwysg rhethregol ar gyfer y piano, sy’n eithaf tebyg i agoriad concerti Grieg neu Schumann. Mae hyn yn ildio i ail thema delynegol sy’n nodweddiadol o lais unigryw’r cyfansoddwr, ac yntau ond yn wr ifanc. Mae’r ail symudiad (Andante) yn hwyrgan fer ag alaw fynegiannol ar gyfer y piano. Mae’r trydydd symudiad (Allegro Vivace) yn llawn cyffro lliwgar a gynhyrchir gan y mesurau cyferbyniol 9/8 a 12/8. Mae’r holl egni’n esmwytho i mewn i adran ganolog lonydd ac yn cau ä naws optimistaidd yng nghywair F# fwyaf. CD: Vladimir Ashkenazy (piano), London Symphony Orchestra / Andre Previn. Decca 444 839-2DF2 (rhan o set dau-CD o’r pedwar concerto - bargen!) RECORDIAD CLASUROL: Sergei Rachmaninov (piano), Philadelphia Orchestra / Eugene Ormandy (dat. 1939-40). Naxos 8.110602 SERGEI RACHMANINOV (1873-1943) Am chwarter canrif olaf ei oes, bu Rachmaninov yn byw’n alltud yn America ar öl dianc o’r gyfundrefn Sofietaidd. Er bod Beverley Hills yng Nghaliffornia, Ile bu farw, yn wahanol iawn i’w fan geni, Semyonovo, roedd naws Rwsiaidd unigryw i’w gerddoriaeth hyd y diwedd. Cafodd ei ddoniau cerddorol eu cydnabod yn gynnar, ac ysgrifennodd ei Goncerto Piano Cyntaf a’r Preliwd poblogaidd mewn C# leiaf pan oedd yn ei arddegau. Torrwyd ar draws y cychwyn cadarn hwn ym 1897 gyda pherfformiad trychinebus o’i Symffoni Gyntaf. Ar öl cyfansoddi'r Ail Goncerto Piano (1901), golchodd ton o greadigrwydd dros Rachmaninov, ac ysgrifennodd llawer o’i weithiau gorau yn ystod y 16 mlynedd nesaf yn ogystal ä dilyn gyrfa ryngwladol fei pianydd meistrolgar ac arweinydd. Roedd Rwsia yng ngafael chwyldro ym 1917, a ffodd Rachmaninov a’i deulu i America. Gwnaeth ei berfformiadau gryn argraff ar gynulleidfaoedd yn America ac Ewrop, ond ni chyfansoddodd ryw lawer o gerddoriaeth ar wahän i’r Pedwerydd Concerto Piano. Ar ddiwedd ei oes dechreuodd gyfansoddi unwaith yn rhagor gyda champweithiau megis Rhapsody on a theme by Paganini, y Drydedd Symffoni a Symphonie Dances. Y bwriad oedd ymddeol o’r byd cyngherddau ym 1943, ond effeithiodd canser ar y dathliadau ac fe hunodd ychydig ddiwrnodau cyn ei ben-blwydd yn 70 ym mis Mawrth. DARLLEN PELLACH: Geoffrey Norris: Rachmaninov. The Master Musicians, Gwasg Prifysgol Rhydychen GWEFAN: www.rachmaninov.com