operäu hiraf ei repertoire. Cyfansoddwyd y Preliwd ar ddechrau 1862 yn Biebrich ger Mainz cyn i Wagner ddechrau gweithio ar yr opera ei hun. Ysgrifennodd yn ddiweddarach, “un noson, a’r machlud tanbaid yn goleuo 'Mainz euraid' a’r Rhine yn llifo’n urddasol, neidiodd y preliwd i'm Meistersingers i mewn i’m meddwl.” Sylwodd ei gyfoedion ar athrylith aeddfed y gerddoriaeth ar unwaith, ac erbyn canol 1862 ysgrifennodd Hans von Bülow fod y Meistersingers yn "gampwaith go iawn ... gyda chyfoeth aruthrol o syniadau cerddorol a hiwmor sy’n gwneud i Shakespeare ymddangos braidd yn undonog.” Perfformiwyd y Preliwd am y tro cyntaf yn Leipzig dan arweiniad Wagner ar 31 Hydref 1862. Mae’r Preliwd yn agor ä thema gadarn sy’n darlunio'r Meistersingers. Mae alaw delynegol, sy’n cynrychioli cariad y marchog ifanc Walter, yn cael ei ysgubo o’r neilltu gan orymdaith fawreddog y Meistersingers, gyda’r enwog Prize Song yn dilyn. Mae syniad ysgafnach sy’n gysylltiedig ä grwp o brentisiaid a’u jocian ysgafn-galon yn dirwyn i ben gyda pherorasiwn crand, gan ddod ä’r preliwd i ddiweddglo llawn dathlu. CD: The London Classical Players / Roger Norrington. EMI 7243 5 55479 2 7 RICHARD WAGNER (1813-83) Mae Wagner yn un o fawrion diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A hynny’n fwy nag unrhyw gyfansoddwr arall ers Beethoven, cyflwynodd agweddau cerddorol newydd a, thrwy ei ddramäu cerddorol, profodd ei gyfoedion ddwyster digynsail. Fel dyn, roedd Wagner yn drahaus, ffroenuchel ac anfoesol gyda’i arian, ond mynnodd deyrngarwch gan ei gyfeillion a’i gydweithwyr. Roedd ei fywyd mor ddramatig ä’i gerddoriaeth. Ar öl cael ei fagu mewn cartref theatrig yn Leipzig, cafodd swydd fei arweinydd cwmni opera yn Würzburg pan yn 20 oed. Datblygodd ei arddull aeddfed yn araf bach, ac yn ystod y cyfnod hwn bu bron iddo Iwgu ym Mharis. Yn ddiweddarach, cafodd ei enwi’n gyfarwyddwr cerddorol Opera Dresden ond fe’i gwaharddwyd am ei ran yng ngwrthryfel 1849 Dresden. Yn ystod ei bymtheg mlynedd o alltudiaeth, datblygodd ei theoriau o ddrama gerddorol a dechreuodd weithio ar Ring (drama sy’n cymryd pedair noson i’w pherfformio) a chwblhaodd Tristan und Isolde (1859). Erbyn 1864, roedd yn wynebu argyfwng; cafodd ei gwrso gan ei gredydwyr o amgylch Ewrop, roedd yn caru ar y slei gyda gwraig ei ddisgybl gorau (y cyfansoddwr Hans von Bülow) a gorweddai gwerth degawd o gyfansoddiadau’n segur. Cafodd ei alw i Munich gan y Brenin Ludwig II o Bafaria, a oedd yn 18 oed ac wedi gwirioni gyda cherddoriaeth Wagner. Talodd ei ddyledion a chyfrannodd adnoddau gyda’r nod o wireddu uchelgeisiau Wagner. Tua diwedd ei oes, ymrwymodd yn llwyr i adeiladu theatr yn nhref fechan Bayreuth y byddai pobl yn heidio iddi (yn wir, maent yn dal i wneud hynny) i weid a chlywed ei waith. Rhoddodd y straen o wireddu’r project a chyfansoddi ei ddrama gysegredig olaf, Parsifal (1882), bwysau annioddefol ar galon Wagner. Bu farw’n sydyn yn Fenis