Volltext Seite (XML)
egni di-ben-draw Beethoven a’i allu i syfrdanu - does ryfedd fod y gynulleidfa gyntaf honno wedi dechrau cymeradwyo’n ddirybudd wrth glywed y timpani’n ddiweddarach yn y perfformiad. Mae’r symudiad hwn yn un eang gyda’r holl ailadrodd; yr un hyd ä’r symudiad agoriadol hirfaith. Mae’r Presto canolog yn croesawu’r trombön am y tro cyntaf yn y symffoni ac hefyd yn cynnwys rhai unawdau estynedig ar y chwythbrennau, sy’n atsain o rialtwch y gwerinwyr yn adran gyfatebol y Pastoral. 3. Adagio molto e cantablile - Andante moderato Cyn gynhared ä 1818, roedd Beethoven wedi ystyried gosod yr hyn yr oedd yn ei alw’n Adagio cantique ar ffurf can dduwiol ac, er na wnaeth yr union beth, mae’r syniad wedi dwyn ffrwyth yn yr Adagio molto e cantabile. Eto, mae yna debygrwydd rhwng y darn hwn ä’r Pedwarawd Llinynnau yn A leiaf, y sonnir amdano uchod, a Chan Sanctaidd y Diolchgarwch sy’n ffurfio’r symudiad araf. Mae’r thema Adagio agoriadol yn ymdebygu i emyn ac yn atgoffa rhywun o’r gän sanctaidd honno; mae’r ail thema Andante yn fwy mynegiannol (wedi’i marcio espressivo) ac yn dod ä chynhesrwydd o’r galon i’r gerddoriaeth gyda chymorth y newid cywair meidon o B ff lat fwyaf i D fwyaf. Dim ond unwaith eto y mae’r adran Andante hon yn ymddangos yn y sgör amrywiol; ar y gwrandawiad cyntaf, cawn ein cymell i feddwl mai ffurf amrywiad-dwbl draddodiadol sy’n cael ei defnyddio yma, ond yn amlwg nid felly y mae. Terfir ar yr awyrgylch ddwywaith gan ffanffer y trymped a’r drwm, ond mewn gwirionedd ni all unrhyw beth dorri ar dawelwch a heddwch yr olygfa freuddwydiol hon. Dim byd, hynny yw, tan yr hyn a alwyd gan Wagner yn ‘ffanfer dychrynllyd’ a chychwyn finale digynsail; finale sy’n cael yr effaith fwyaf o’i chwarae heb saib. 4. Presto; Allegro assai Mae’r agoriad anhrefnus hwn o bosib yn deyrnged i waith yr oedd Beethoven yn ei edmygu’n fawr, sef Creation Haydn. Clywn yr adroddgan Ile ceir awgrym o bob un o’r tri symudiad blaenorol, cyn i’r sieloau a’r bas dwbl eu gwrthod yn gandryll (er eu bod ar un llaw yn fwy maddeuol i’r Adagio) cyn i ni gyrraedd y thema ‘gorfoledd’. Mae’r gweddill yn rhan annatod o hanes cerddoriaeth. Dyma un o’r darnau enwocaf oll. Mae’n hollbresennol, wedi’i fabwysiadu fei yr anthem Ewropeaidd ac yn wir, yn anthem i’r byd i gyd gyda’i thema o frawdgarwch a gorfoledd byd- eang. Fodd bynnag, mae Beethoven yn cellwair o hyd - wrth i’r thema ‘gorfoledd’ gyrraedd anterth arbennig wrth i’r ‘ceriwb sefyll gerbron Duw’, mae’r baswn dwbl yn cael ei glywed am y tro cyntaf ä chlec neu gnec isel i gyflwyno gorymdaith feddwol. Ond mae’r thema ganolog yn parhau’n ddathliad mawreddog gyda phwyslais ar orfoledd, dathlu’r cread, rhyfeddodau’r byd a’i bethau, gan ein hannog i edrych y tu hwnt i’r wybren a’r ser i gysylltu ä’r Creawdwr.